RHYBUDD! Mae hon yn gopi archif o wefan Llinell Lesbiaid Gogledd Cymru. Efallai na fydd y wybodaeth a gynhwysir yn gyfredol.


celtic woman

North Wales Lesbian Line


Llinell Lesbiaid Gogledd Cymru

celtic woman

Dod Allan

Cymdeithasol

 

Hanes Lesbiaid
Llinellau Lesbiaid
DU a Iwerddon
Materion LHD
yng Nghymru a'r DU
Grwpiau Cymorth LHD
drwy Gymru
Cysylltwch a ni
English
entrance


safle Saesneg

 

 

 

 

celtic dragon circle
Boneddigesau Llangollen l Eleanor Butler a Sarah Ponsonby l Y 'Lollies a Trollies' l Mary Lloyd a Frances Power Cobbe l Mary Gordon a Violet Labouchere

Cyn i Freud ddehongli ei syniadau ar gyfunrhywiaeth yn nechrau'r ugeinfed ganrif nid oedd dim anfoesol neu annaturiol yn cael ei feddwl am berthnasau a oedd yn codi rhwng merched, mewn gwirionedd yr oedd yn cael ei gysidro yn aml i fod yn ymarfer da am ymrwymiad hir-fywyd a'i disgwyliwyd gan rhai (!)

Efallai felly y buasai'r wyth merch, a'i storiau yr ydym yn cyffwrdd a yma, yn gallu derbyn eu henwogrwydd yn well oherwydd eu gallu i oroesi heb amddiffynnwr gwryw a meistr nag fel Lesbiaid.

Cyfeiriwyd at y berthynas rhwng Eleanor Butler a Sarah Ponsonby bob tro fe 'cyfeillgarwch rhamantus' ac mae'n debyg i Mary Lloyd a Frances Power Cobbe, a Mary Gordon a Violet Laboucheredeimlo yn fwy cyfforddus gyda'r geiriau swffraget a ffeminydd. Ond sut bynnag ai elwir mae'r wyth bywyd yma yn dystiolaeth o gariad yr-un-rhyw benywaidd dros y canrifoedd yng Ngogledd Cymru.

Boneddigesau Llangollen (yn byw a'i gilydd ym Mlas Newydd 1780-1831)

Diancodd yr Arglwyddes Eleanor Butler tri-deg-pedwar oed, a Miss Sarah Ponsonby undeg-saith oed o Dde Iwerddon, ac yn 1780 gwnaethpwyd eu cartref yn Plas Newydd, yn edrych dros Llangollen yng Gogledd Cymru , i fyw gyda'i gilydd mewn harmoni cariadus am y pumdeg blynedd nesaf.

Er mod yr Arglwyddes Eleanor a Sarah wedi dod o aristocratiaeth Gwyddelig, achosodd eu methiant syfrdanol i gydymffurfio a'r cynlluniau priodas deuluol a rhedeg i ffwrdd gyda'i gilydd achosi iddynt i gilio o sylw cymdeithas, yn well ganddynt i fyw bywyd enciliol o 'gyfeillgarwch rhamantus'. Roedd Eleanor Journal yn ysgrifennu ar Dydd Llun 14ain Gorfennaf 1787:

ladies of llangollen'What Tenderness - what attention - what anxiety did I not experience from the beloved of my Soul - She never quitted My bed Side for a Single instant reading to me to Soothe the pain Till it was abated - with difficulty I co'ld prevail with her to to breakfast or dine, - when she did eat Still it was by my bed side... so soft so delicious, so tender a day.'

Er hynny arweiniodd eu hagosrwydd iddynt ddod yn eitemau o chwilfrydedd a dyfalu, fel a'i dengys gan y detholiad hwn o'r General Evening Post, 24ain Gorffennaf 1790:

Miss Butler is tall and masculine, she wears always a riding habit, hangs her hat with the air of a sportsman in the hall, and appears in all respects as a young man, if we except the petticoats which she still retains. Miss Ponsonby, on the contrary, is polite and effeminate, fair and beautiful. They live in neatness, elegance and taste. Two females are their only servants. Miss Ponsonby does the duties and honours of the house, while Miss Butler superintends the gardens and the rest of the grounds.

Roedd yr Arglwyddes Eleanor yn ofidus am yr ymyrraeth hwn ar eu bywyd ac ysgrifennodd i chwilio am gyngor gan ei ffrind, Edmund Burke, yn gofyn sut y gallai eu henwau da gael eu clirio, a fuasai'n bosib dod a'r ysgrifennydd truenus i gyfrif. Amheuodd Burke y buasai iawndal yn medru ei gael drwy apel i'r gyfraith gan ddweud:

 

Your consolation must be that you suffer only by the baseness of the age you live in and that you suffer along with everything that is excellent in the world. (!!)

Ond erbyn 1831 pan ymunodd Sarah a'i annwyl Eleanor a Mary eu morwyn deyrngar, mewn bedd tair ochr yn y fynwent leol, roedd y stori oÕu teyrngarwch distaw yw gilydd wedi dod yn adnabyddus.

Daeth eu bywydau o ymddeoliad diwylliedig cyfeillgarwch y Dug o Wellington, Charles Darwin, Syr Walter Scott, Sheridan a'r Arglwyddes Caroline Lamb. Ysgrifennodd Wordsworth am eu hymddeoliad gwledig ac ysgrifennodd y Tywysog Puckler Muskau y dywediad 'Y ddwy forwyn fwyaf enwog yn Ewrop'.

Mae stori eu bywydau wedi tynnu sylw a edmygedd llawer o lesbiaid drwy'r oesoedd i gerdded o amgylch eu bwthyn, Plas Newydd yn Llangollen a dychmygu'r amseroedd.


'Y Lollies a'r Trollies' (yn byw gyda'i gilydd ym Mhlas Newydd Llangollen 1831-185)

Wedi marwolaeth Sarah prynwyd Plas Newydd, Llangollen, am £14,000 gan ddwy ferch o oedd wedi bod yn byw yn y pentref ers talwm, ond a oedd wedi dod o Fanceinion. Un ohonynt oedd Miss Lolly, ac roedd yr Arglwyddes Eleanor Butler yn ddireidus wedi rhoi'r ffugenw y 'Lollies a'r Trollies' iddynt. Am yr ugain mlynedd nesaf bu Miss Charlotte Andrew a Miss Amelia Lolly yn byw yn y 'Cysegrfa o Gyfeillgarwch' yn efelychu bywyd y Boneddigesau. arrow to top of page


 

Mary Lloyd a Frances Power Cobbe (yn byw a'i gilydd yn Llundain a Dolgellau 1862-1898)

Mary Lloyd

Sonnir Eleanor Butler am ymweliad gan y Lloyds o Neuadd Rhagallt yn ei dyddlyfrau, ac felly mae yn hynod o debyg fod Mary Lloyd, a oedd ei theulu yn byw yn Neuadd Rhagallt, wedi cwrdd a'r Boneddigesau pan yn eneth fach.

Daeth Mary yn un o'r cerflunwyr Fictorian ac arlunwyr yn astudio Celt Neoclasurol yn Rhufain fel disgybl o John Gibson RA. Roedd John hefyd o Ogledd Cymru, a daeth yn enwog am ei gerfluniau arlliw o farmor aml-liwiog a'i dangoswyd yn yr Arddangosfa Genedlaethol o 1862 yn Llundain.

Cyflwynodd cyd-ddisgybl, Harriet Hosmer y cerflunydd Americanaidd a oedd yn byw gyda Isa Blagdon, Mary i gylch llydan o ffrindiau lesbiaid yn byw yn Rhufain, can gynnwys yr actores Charlotte Cushman a oedd yn byw gyda Matilda Hayes ac yn hwyrach Emma Stebbins.

Cyfarfuodd Frances Power Cobbe Mary pan ymwelodd a Rhufain rhwng 1858-60, ac erbyn 1862 roedd Mary a Frances wedi gadael i sefydlu cartref gyda'i gilydd yn Llundain. Rhodd Mary, gwraig o foddion wedi eu hetifa, eu gweithgareddau artistig i fyny a chefnogi Frances yn ei holl weithgareddau politicaidd. Ond er iddi roi cerflunio i fyny, parhaodd Mary i fod yn gyfeillgar iawn gyda John Gibson, a roedd hi a Harriet Hosmer gyda fo pan fu farw yn 1866.

Bu farw Mary yn 1898, ond parhaodd Frances i fyw ymlaen yn eu bwthyn yng Ngogledd Cymru nes iddi farw yn 1904.


Frances Power Cobbe

Friend of my life! Frances Power CobbeWhene'er my eyes
Rest with sudden glad surprise
On Nature's scenes of earth and air
Sublimely grand, or sweetly fair,
I want you, Mary


And when the winters nights come round
to our 'ain fireside' cheerly bound
With our dear Rembrandt Girl, so brown
Smiling serenely on us down
I want you, Mary.

I Want You Mary by Frances Power Cobbe 1873

Roedd Frances yn ei thridegau yn 1858-60 pan ddaeth ar draws y 'Ferched rhyddfreiniedig' Rhufain, fel a ddisgrifiodd Elizabeth Barrett Browning. Roedd Frances yn agored o genfigennus o'r agosrwydd o'u holl berthnasau ac erbyn 1860 roedd wedi perswadio Mary Lloyd i ddychwelyd i Lundain gyda hi.

Yn wraig Wyddelig fywiog, erbyn y 1870au roedd Frances yn aelod gweithredol o Gymdeithas Genedlaethol Llundain am Etholfraint Merched ac yn wrth-fywddyrannwr bendant yn ysgrifennu 320 o lyfrau a phamffledi ar y testun. Ei syniadau gwrth-fywddyrannu a arweiniodd iddi ffurfio Cymdeithas Stryd Fictoria ar gyfer Amddiffyn Anifeiliaid yn 1875 ac ei syrthio allan gyda llawer o ffrindiau. Gwelodd llawer o linciau rhwng y brwydro am hawliau merched ag anifeiliaid. Yn ei barn hi, roedd merched ag anifeiliaid yn agored i greulondeb meddygon, gwyddonwyr a dynion eraill.

Wedi marwolaeth Mary yn 1898, roedd Frances yn ddioddefwr o gyhuddiad maleisgar o 'Oryrru hen geffyl yn greulon'. Er mod y cyhuddiad wedi ei gael i fod yn ddi-sail, gellwch ddychmygu'r gofid yr oedd yn rhaid ei bod wedi teimlo at gael ei chyhuddo gan ei chymdogion o'r union peth yr oedd wedi brwydro mor galed yn ei erbyn.

Gadawodd Frances gyfarwyddiadau penodol iawn ar ei marwolaeth y dylai'r meddyg dorri ei phen i ffwrdd 'I'w wneud yn sicr fod unrhyw adfywiad yn y bedd yn amhosibl' ac y bod ei harch i gael ei wneud o'r 'defnyddiau ysgafnaf a mwyaf darfodus yn ddigon i gario ei chorff yn weddus i'r bedd yn unig'.

Cofiodd ei ffrind Blanche Atkinson fod:

The sorrow of Miss Lloyd's death changed the whole aspect of existence fod Miss Cobbe. The joy of her life had gone. It had been such a friendship as is rarely seen - perfect in love, sympathy and mutual understanding. To the very last she could never mention the name of 'My dear Mary' or of her own mother without a break in her voice.


arrow up

 

Dr. Mary Louise Gordon a Violet Labouchere(wedi ymweld a Phlas Newydd Llangollen yn 1930au)

Ffeminydd oedd Dr. Mary Gordon ac un o'r meddygon benywaidd cyntaf yn Lloegr, cafodd yrfa ddisglair yn gweithio fel swyddog meddygol yn Holloway, ac roedd wedi ysgrifennu traethawd ar ddisgyblaeth mewn carchar. Yn y 1930au cynnar, oed 73 mlwydd, dychwelodd Mary i Plas Newydd, Llangollen, pumdeg-chwech mlwyddyn ar ol ymweliad yn ei phlentyndod. Ond cymerodd freuddwyd, tra yn aros yn nh Carl Jung yn y Swistir, i ddod ahi yn ol i ymweld a Plas Newydd.

a gooseYn y llyfr a ysgrifennodd am ei phrofiadau disgrifiodd Mary deimlad llethol ar unwaith o bresenoldeb Eleanor Butler a Sarah Ponsonby cyn gynted ag a aeth i fewn i'r bwthyn. Cyhoeddwyd ei llyfr The Chase of the Wild Goose gan Leonard a Virginia Woolf yng Ngwasg Hogarth yn 1936, ac yn derbyn gwell arolygiad yn y Times Literary Supplement na llyfr cyfoesol, The Well of Lonliness.

Gwnaeth ei theithiau yng nghamau y Boneddigesau dros fryniau Llangollen, yn trafod gyda eu hysbrydion, ei gadael gyda phenderfyniad i ddathlu eu bywydau. Yn 1937 rhoddodd Dr Mary Gordon cerfwedd i'r eglwys leol Sant Collen, wedi ei gyflwyno er cof am Foneddigesau Llangollen. Dangosodd y gerfwedd Lady Eleanor Butler a Sarah Ponsonby ond modelwyd gan Mary Gordon ei hunain a'i phartner Violet Labouchere, y cerflunydd.

Mae'r LLGC yn falch i ddweud ychydig o'r storiau o'u bywydau a gobeithio y gwnaiff eich cynorthwyo i ddod o hyd i'ch lle chi mewn hanes.

Cyfeirlyfrau
Not a Passing Phase, Reclaiming Lesbians in history 1840-1985, Lesbian History Group, Womens Press Ltd, London,1989
Surpassing the Love of Men, Lillian Faderman, Womens Press Ltd, London, 1981
The Ladies of Llangollen: A Study of Romantic Friendship, Elizabeth Mavor, Penguin, London, 1971
Life with the Ladies of Llangollen, compiled and edited by Elizabeth Mavor, Penguin, London 1984
The Hamwood Papers of the Ladies of Llangollen and Caroline Hamilton, edited by Mrs.GH Bell, Macmillan & Co, London 1930
Victorian Feminists, Barbara Caine, Oxford University Press, 1992
Portraits to the Wall, Rose Collis, Cassell, London 1994
Life of Frances Power Cobbe, B. Atkinson, Swan, London 1904
The Chase of the Wild Goose Mary Louise Gordon, Hogarth Press, London, 1936
The Chase of the Wild Goose was republished as Llangollen Ladies by John Jones Publishing Ltd in 2000
top y tudalen
nesa

 

Mae'r LLGC yn cynnig teithiau dywysiedig o amgylch Plas Newydd , a safleoedd hanes lesbiaid eraill, at y gost o roddid i LLGC a chostau teithio am ragor o fanylion cysylltwch a ni yn

mail@lesbian-line-north-wales.org.uk

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynnig Arbennig
Llyfr ar Werth

The Chase Of the Wild Goose
gan Mary Louise Gordon cyhoeddwyd yn wreiddiol gan Gwasg Hogarth fel Llangollen Ladies yn 2000.

PRIS
£7.99
POST a PHACIO
DU £2.50


i drosi arian

CYSLLTWCH A LLGC:

mail@lesbian-line-north-wales.org.uk